Green Mons Wales-Welsh

Mae’r cnotiog a’r crychiog angen eich cefnogaeth!

 Mae Coed Cadw wedi lansio deiseb sy’n galw ar y Cynulliad i gynnig diogelwch go iawn ar gyfer coed hynafol ac etifeddol Cymru, ynghyd â chyngor a chefnogaeth i’w perchnogion nhw.

Beth mae Coed Cadw yn galw amdano?

Mae Coed Cadw’n credu fod coed hynafol ac etifeddol Cymru’n rhan werthfawr ac amhrisiadwy o’n hamgylchedd a’n hetifeddiaeth. Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i gynnig diogelwch go iawn iddyn nhw, er enghraifft trwy:

 

Roi dyletswydd ar y corff amgylcheddol sengl i hybu cadwraeth coed fel hyn trwy gynnig cyngor a chefnogaeth i’w perchnogion, gan gynnwys grantiau pan fydd angen.

Diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol am Orchmynion Gwarchod Coed, i sicrhau eu bod yn gwbl addas i ddiogelu coed hynafol ac etifeddol.

Cynnwys bas data’r coed a gofnodwyd, a’u dilysu, trwy brosiect yr Helfa Coed Hynafol fel rhan o unrhyw gynllun sy’n cymryd lle Cynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y rhain fel ‘Coed o Ddiddordeb Arbennig’. Dylid darparu’r wybodaeth hon i Awdurdodau Cynllunio yng Nghymru iddyn nhw ei gosod ar eu systemau GIS, er gwybodaeth.

Mae yna ragor am fanylion am y newidiadau rydym yn galw amdanyn nhw ar y wefan hon.

Pam fod angen gwneud hyn?

Mae Coed Cadw’n credu na allwn ni fforddio colli coed hynafol ac etifeddol. Mae yna nifer o achosion wedi bod yng Nghymru yn ddiweddar lle mae coed aeddfed neu hynafol wedi cael eu cwympo, y gellid eu hachub, o bosibl, petai’r newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu. Gwelir y panel i dde am ragor o fanylion.

Onid ewyllys da y perchnogion y peth pwysicaf o ran gwarchod y coed hyn?

Ie, rydym yn cytuno â’r gosodiad yma. Dyma pan ein bod ni’n argymell y dylai’r corff amgylcheddol unig a greuir cyn bo hir gael pŵer, neu ddyletswydd, i hybu gwarchod coed hynafol ac etifeddol, a hynny trwy gynnig cyngor a chefnogaeth i’w perchnogion, gan gynnwys grantiau pan fydd angen.

Nid yw’r drefn Gorchmynion Gwarchod Coed yn berffaith, o bell ffordd, ond mae’n cynnig gwarchodaeth sylfaenol ar gyfer coed a fyddai fel arall mewn perygl, i ryw raddau. Ond prif wendid y drefn bresennol, ym marn Coed Cadw, yw nad yw’n cynnig unrhyw gefnogaeth gadarnhaol i dirfeddianwyr sydd eisiau edrych ar ôl eu coed, ond a allai wynebu costau uwch trwy wneud hyn nag y bydden nhw trwy gwympo’r goeden yn syth bin petai problem.

Pa goed fyddai’n cael eu cynnwys?

Y bwriad yw y bydd y pwer, neu’r ddyletswydd hon yn ymwneud â choed hynafol ac etifeddol yn unig. Rydym yn credu y dylai’r corff amgylcheddol unigol newydd ymgynghori ar griteria fyddai’n cael eu defnyddio i benderfynu pa goed fyddai’n cael eu cynnwys.

Pa newidiadau i’r drefn Gorchmynion Gwarchod Coed y mae Coed Cadw’n galw amdanyn nhw?

Rydym yn argymell nifer o fân newidiadau i sicrhau fod y drefn Gorchmynion Coed yn gwbl addas ar gyfer ei bwrpas. Er mai mân-newidiadau ydyn nhw, rydym yn meddwl eu bod yn deilio â gwendidau allweddol yn y system bresennol, ac y bydden nhw felly yn gwella’r warchodaeth a gynigir i goed hynafol Cymru.

Er enghraifft, mae’r drefn bresennol eithrio pob coeden sy’n ‘farw’, neu ‘wrthi’n marw’. Os dehonglir hyn yn llythrennol, mae’n eithrio llawer o’r coed hynaf a mwyaf gwerthfawr, gan y gall derwen, er enghraifft, dreulio canrifoedd yn dirywio’n araf deg. Nid yw’n bwysig a yw coed wrthi’n marw. Y cwestiwn pwysig yw, a ydi hi’n beryglus, ac os felly, a oes yna ryw ffordd i leihau’r perygl i lefel dderbyniol, a hynny heb ei chwympo.

Gellir gweld rhestr lawn o’r newidiadau mae Coed Cadw’n galw amdanyn nhw yma.

Sut gallaf i gymryd rhan?

Trwy arwyddo’r ddeiseb

Trwy arwyddo i dderbyn egylchlythyr Coed Cadw

Trwy’n dilyn ni ar Twitter neu fod yn ffrindiau gyda ni ar Facebook

Trwy edrych ar dudalen gwirfoddol ar ein gwefan ni, i weld a oes yna gyfleoedd sy’n apelio atoch chi

Trwy ymaelodi â Choed Cadw

Ym mis hydref 2006 cwympwyd dwy dderwen aeddfed yn y bore bach Ddydd Sadwrn, ym Mhenrhyndeudraeth, Conwy. Credir fod y goeden hynaf rhwng 200 a 300 mlwydd oed. Ni allai’r trigolion gysylltu â’r Cyngor Sir i drio sicrhau fod y coed yn cael eu diogelu gan Orchymyn Gwarchod Coed. Er i Swyddog o’r Comisiwn Coedwigaeth ddod i’r safle bore Dydd Llun, nid oedd modd erlyn y rhai oedd yn gyfrifol. 

Ym mis Mehefin 2009 cwympwyd 20 coeden aeddfed, coed derw ac ynn yn bennaf, bore Dydd Sul ar safle hen ysbyty Bron-y-garth ym Mhenrhyndeudraeth. Fe gysylltodd trigolion lleol â’r Cyngor Sir â’r heddlu, ond nid oedd modd rhoi Gorchymyn Gwarchod Coed ar y coed mewn pryd i’w hachub. Fe wnaeth DEFRA ymchwiliadau, i weld a oedd y perchennog wedi torri’r gyfraith trwy dorri coed heb drwydded cwympo coed. Ond ni lwyddwyd i ddwyn erlyniad.

 Mae Coed Cadw’n galw ar y Cynulliad Cymru i gynyddu diogelwch ar gyfer coed hynafol, hynafol a threftadaeth yng Nghymru, er enghraifft trwy:

1. Gosod dyletswydd y Corff Amgylcheddol Sengl i hyrwyddo cadwraeth coed hynafol ac etifeddol trwy ddarparu cyngor a chymorth i berchnogion coed o'r fath sy'n bodloni meini prawf a osodir ar ôl ymgynghoriad gan yr asiantaeth ei hun. Byddai hyn yn cynnwys darparu cymorth grant lle mae angen gwneud gwaith er lles y goeden. Byddai dyletswydd ar yr asiantaeth hefyd i roi cyngor i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) am ofal coed o'r fath.

2. Diwygio'r Drefn Gorchmynion Gwarchod Coed bresennol i sicrhau ei fod yn gwbl addas at ddiben diogelu ein coed mwyaf hynafol a hybarch:

a. I gael gwared ar yr eithriad cyffredinol yn achos coed sy'n 'marw' neu 'marw'

b. I Ail-eirio'r cyfeiriad at coed peryglus i wahaniaethu rhwng y coed sy’n cael eu hystyried yn perygl gwirioneddol i fywyd, a fyddai'n parhau i gael eu heithrio, ac eraill lle mae cwestiwn diogelwch llai difrifol a llai brys i’w ystyried. Dylid datgan hefyd y dylai gwaith gael ei gyfyngu i'r rhai rhannau o'r goeden sydd mewn gwirionedd yn achosi perygl ac y dylid rhoi gwybod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gynted ag y bo modd.

c. Dylid datgan yn glir bod gwerth bywyd gwyllt a threftadaeth yn cyfri fel 'mwynder' o dan y drefn Gorchmynion Gwarchod Coed.

ch. Yn achos coeden sydd sy’n cael eu diogelu gan Orchmynion Gwarchod Coed, sydd hefyd yn bodloni'r meini prawf yn adran 1 uchod, byddai'r Awdurdod Cynllunio Lleol â’r hawl i wrthod caniatâd i gwympo coeden, ond cyfeirio at yr asiantaeth amgylcheddol newydd i roi cyngor ar ariannu gwaith rheoli, fel uchod.

e. I roi dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i gyhoeddi rhif ffôn i alluogi’r cyhoedd i gysylltu â'r awdurdod am faterion diogelu coed y tu allan i oriau swyddfa arferol.

dd. Dylid cael gwared ar y system cosbi dau gategori. Fe ddylai’r llysoedd gael yr hawl i osod cosbau ar lefel y maent yn credu sy'n briodol. (O dan y system bresennol, mae'n anodd iawn i Awdurdodau Cynllunio Lleol i sicrhau erlyniad ar gyfer trosedd categori un; a'r uchafgosb ar gyfer trosedd categori dau yw £2,500 yn unig. Prin fod hyn yn arf ataliol ystyrlon, gan gadw mewn cof gwerth plotiau adeiladu.)

 

g. Dylai'r terfyn amser 6 mis ar gyfer erlyniadau ddechrau o'r dyddiad pan mae'r swyddog erlyn yn derbyn ddigon o dystiolaeth i gyfiawnhau dwyn achos, a nid o’r dyddiad pan gyflawnir y weithred. Mae’r newid hwn wedi digwydd yn Lloegr eisoes.

f. Dyled rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddigido lleoliad coed sydd â Gorchmynion Gwarchod Coed arnyn nhw, a hynny o fewn amserlen benodol, a throsglwyddo'r wybodaeth hon i'r asiantaeth amgylcheddol newydd fel y gellir ei chasglu, ei chyhoeddi a'i dosbarthu ar lefel Cymru.

3. Yn cynnwys y bas data gyhoeddus o goed sydd wedi cael eu dilysu o dan prosiect yr Helfa Coed Hynafol, fel un o'r setiau data mewn unrhyw olynydd i Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y rhain fel 'Coed o Ddiddordeb Arbennig' a darparu'r wybodaeth hon i Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru fel ei bod yn gael eu hymgorffori yn eu systemau GIS, er gwybodaeth.

 

 

 

RELATED FEATURES:

http://wtcampaigns.wordpress.com/?p=10360&preview=true